Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru
Croeso i wefan Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru.
Gall rhieni yng Nghymru y mae gan eu plant anghenion addysgol
arbennig apelio i Dribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru
(TAAAC) yn erbyn penderfyniadau a wnaed gan Awdurdodau Addysg
Lleol (AALl) yng Nghymru ynglyn ag addysg eu plant.
Rydym hefyd yn ystyried hawliadau am wahaniaethu ar sail
anabledd mewn ysgolion yng Nghymru.
Mae'r Tribiwnlys yn gweithredu'n annibynnol ar y Llywodraeth
ganolog a'r Llywodraeth leol.
Ar y safle hwn, gallwch gael gwybodaeth am:
- sut i gysylltu â ni
- pryd y gallwch apelio neu wneud hawliad
- beth y gallwch apelio neu wneud hawliad yn ei gylch
- sut i apelio neu wneud hawliad
- Beth fydd yn digwydd nesaf
Dylai'r botymau ar ochr y dudalen eich helpu i ganfod y wybodaeth
sydd ei hangen arnoch. Os hoffech newid rhwng y safle Cymraeg
a'r safle Saesneg, cliciwch ar y botwm Cymraeg neu Saesneg
ar frig y dudalen fel sy'n briodol.
Os hoffech ymweld â'r safle Cymraeg yn uniongyrchol,
ewch i: www.taaac.gov.uk
Gobeithio y cewch y wefan hon yn ddefnyddiol ac yn hawdd
i'w defnyddio. Os na allwch ganfod yr hyn rydych yn chwilio
amdano neu os hoffech gysylltu â ni, cliciwch ar y botwm
cysylltu uchod.
|