Back to National Assembly for Wales Homepage Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru
       
Back to SENTW home page    
   
 
Welsh Assembly Government * * * * * * *
*
 

Logo

Cysylltwch â’r hafan

Mae’r adran yma’n esbonio sut i gysylltu â ni. Defnyddiwch y dolenni isod i gael rhagor o wybodaeth.

 

Cyfeiriad ein swyddfa

Llinell Gymorth

Rhif Ffacs

E – bost

Sut i gael gafael arnom ni

Y drefn gwyno

Adroddiad Blynyddol

 

Dylid anfon pob apel AAA a cheisiadau anabledd yn ymwneud ag ysgolian yng Nghymru at y cyfeiriad isod.

 

Cyfeiriad

TAAC
Uned 32
Parc Menter Heol Ddole
Llandrindod Wells
Powys
LD1 6PF

Os oes angen cyngor cyffredinol amoch ynghylch cyflwyno apel mewn perthynas ag AAA neu hawliad ynglyn

 

Llinelli Gymorth: 01597 829800

Rhif Ffacs: 01597 829801

E-bost: tribunalenquiries@wales.gsi.gov.uk

 

Sut i gael gafael arnom ni

 

 

 

map

 

 

Y Drefn Gwyno

Ein nod yw darparu gwasanaeth da ar gyfer ein defnyddwyr. Os nad ydych yn hapus â’r gwasanaeth a ddarparwn, gadewch inni wybod yn syth.

Pan dderbyniwn eich cwyn,’rydym yn:

  • ei thrin yn ddifrifol;
  • ymdrin â hi’n brydlon ac yn gwrtais;
  • ymateb drwy egluro’n llawn, gan ymddiheuro am unrhyw gamgymeriadau a wnaethom a rhoi manylion am y camau a gymerwyd i osgoi hyn yn y dyfodol
  • ceisio dysgu drwy edrych ar y cwynion a’u defnyddio i wella’n ffordd o weithio
  • cofnodi’r cwynion ac yn cyhoeddi gwybodaeth yn eu cylch yn ein Hadroddiad Blynyddol

Gwneud Cwyn

Gall defnyddwyr y Tribiwnlys gwyno i’r Tribiwnlys:

  • drwy lythyr,
  • drwy ffacs,
  • drwy’r e-bost,
  • ar y ffôn,
  • yn bersonol

Fel rheol cewch lythyr yn ateb ond os ydych yn gyrru e-bost ac yn dymuno derbyn yr ateb hefyd drwy’r e-bost, gadewch inni wybod. Cewch gwyno yn y Gymraeg neu yn Saesneg, ac atebwn yn yr un iaith.

Cewch gwyno am unrhyw agwedd ar ein gwaith. Fodd bynnag, ni chewch ddefnyddio’r drefn gwyno hon i geisio newid penderfyniad tribiwnlys. Os ydych yn anghytuno â phenderfyniad y tribiwnlys, cewch, dan rai amgylchiadau, apelio i’r Uchel Lys neu ofyn i’r tribiwnlys adolygu’i benderfyniad. Mae cyfyngiadau amser caeth ar y cyfnod pan gewch apelio – cysylltwch â Llinell Gymorth y Tribiwnlys am fwy o wybodaeth (Ffôn 01597 829800).

 

Wrth bwy y dylwn gwyno?

Os ydych am gwyno am y ffordd y bu i’r tribiwnlys drafod eich gwrandawiad, ond nad ydych yn gofyn yn sgil hynny i’r tribiwnlys newid ei benderfyniad, dylech ysgrifennu at Lywydd y Tribiwnlys yn:

SENTW
Uned 32,
Parc Menter Heol Ddole
Llandrindod Wells
Powys
LD1 6PF

Os nad oeddech chi’n fodlon ar y ffordd y cafodd eich gwrandawiad ei drefnu, neu ar unrhyw agwedd arall ar ein gwasanaeth, dylech ysgrifennu at Ysgrifennydd y Tribiwnlys yn yr un cyfeiriad (gallwch hefyd anfon eich cwyn, drwy’r e-bost wedi’i nodi â’r gair "CWYN ", i tribunalenquiries@wales.gsi.gov.uk).

Ym mhob achos, bydd o gymorth i ni os:

  • eglurwch y rheswm dros eich cwyn;
  • rhowch fanylion penodol;
  • gadewch inni wybod sut, yn eich barn chi, y gallem fod wedi gwneud pethau’n wahanol

Gallwch gwyno am y ffordd yr ydym yn trafod eich apêl ar unrhyw adeg yn y broses. Fel arfer, ni fydd gwneud cwyn yn peri oedi wrth ymdrin â’r apêl.

Os nad ydych yn fodlon â’n gwasanaeth, cyn neu ar ddiwrnod y gwrandawiad, dylech hysbysu Clerc y Tribiwnlys. Bydd y Clerc yn ceisio datrys y broblem yn y fan a’r lle.

Beth sy’n digwydd ar ôl imi gwyno?

Byddwn yn ymdrin â’ch cwyn yn brydlon ac mewn modd teg. Byddwn yn cydnabod derbyn eich cwyn cyn pen tri diwrnod gwaith. Wrth wneud hyn byddwn hefyd yn rhoi ichi ryw syniad faint o amser a gymerwn ni i ymdrin â’ch cwyn.

Fel arfer byddwn yn anfon ateb llawn cyn pen pymtheg diwrnod ar ôl inni dderbyn eich cwyn. Os nad ydym yn gallu ateb cyn pen pymtheg diwrnod gwaith, er enghraifft os bydd angen ymchwiliad hirach, byddwn yn egluro pa gamau sy’n cael eu cymryd i ymdrin â’ch cwyn a phryd y gallwch ddisgwyl ateb llawn.

Os ydym wedi gwneud camgymeriad, byddwn yn ymddiheuro. Eglurwn ichi beth aeth o’i le a dywedwn sut y bwriadwn wella’r gwasanaeth.

Beth fydd yn digwydd pan na fydd eich cwyn o fewn awdurdod y Tribiwnlys?

Cwynion ynghylch apeliadau yw’r unig rai y gall y Tribiwnlys eu trafod. Os bydd eich cwyn yn ymwneud ag ymddygiad ysgol neu AALl, neu ddiffygion y rhain wrth gyflawni’u dyletswyddau, dylid ei chyfeirio i Gynulliad Cenedlaethol Cymru:

Is-adran Cefnogi Disgyblion

Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Adeiladau’r Goron
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Os yw’ch cwyn ynghylch rhywbeth na all y Tribiwnlys ei drafod, efallai fod gennych reswm dros apelio i’r Ombudsman Llywodraeth Leol. Dyma ei gyfeiriad:

Ty Derwen
Heol y Llys Court Road
Pen y Bont ar Ogwr
CF31 1BN

Efallai y bydd eich AC lleol neu’ch AS yn gallu’ch helpu wrth lunio cwyn. Gall eich Canolfan Cyngor ar Bopeth roi ichi enw a chyfeiriad eich AC lleol neu’ch AS, neu gallwch ysgrifennu at eich AC yn:

Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd CF99 1NA

Gallwch ysgrifennu at eich AS yn:

Ty’r Cyffredin
Llundain
SW1A 0AA

 

Adroddiad Blynyddol

Gallwch dadlwytho copi o ffurflen yr adroddiad blynddol yma (pdf 938kb), neu, os oes gwell gennych chi, cysylltwch â ni I gael copi o’r adroddiad wedi ei anfon atoch.

 

 

 

Back to top