Y penderfyniad
Sut byddwch chi'n dod i benderfyniad?
Mae'r panel tribiwnlys yn dod i benderfyniad drwy ystyried
yr holl dystiolaeth. Mae hyn yn cynnwys y dogfennau y byddwch
chi a'r AALl yn eu hanfon cyn y gwrandawiad a'r hyn a gaiff
ei ddweud yn y gwrandawiad hefyd. Pa beth bynnag a benderfynir
gan y tribiwnlys, bydd yn rhaid i chi a'r AALl dderbyn y penderfyniad
hwn.
Pryd y caf wybod eich penderfyniad?
Byddwn yn gwneud ein gorau i bostio ein penderfyniad a'r
rhesymau dros y penderfyniad hwnnw atoch chi a'r AALl o fewn
10 diwrnod gwaith i'r gwrandawiad. Bydd angen ychydig mwy
o amser ar gyfer rhai achosion cyn y gallwn anfon y penderfyniad.
Ni allwn ddweud wrthych chi (na'r AALl) beth yw ein penderfyniad
dros y ffôn.
A allaf ofyn i chi ailystyried?
Gallwch chi a'r AALl ofyn i ni adolygu ein penderfyniad os
credwch fod problem dechnegol ynglyn â'r penderfyniad
neu'r ffordd y gwnaed y penderfyniad. Ni fyddwn yn adolygu
ein penderfyniad am y rheswm syml nad ydych yn fodlon arno.
Mae'n rhaid i ni dderbyn eich cais o fewn 10 diwrnod
gwaith i'r dyddiad y gwnaethom gyhoeddi'r penderfyniad. Mae'n
rhaid i'r cais hwnnw nodi eich holl resymau. Nid yw adolygiad
yn disodli apêl i'r Uchel Lys.
A allaf apelio i'r llysoedd yn erbyn eich penderfyniad?
Gallwch chi a'r AALl apelio i'r Uchel Lys yn erbyn ein penderfyniad
ond ar bwyntiau'n ymwneud â'r gyfraith yn unig. Os bydd
angen cyngor arnoch ynglyn â hyn, bydd cyfreithiwr neu
gorff gwirfoddol yn gallu eich helpu. Bydd gennych 28 diwrnod
o'r dyddiad y cyhoeddwyd y penderfyniad i apelio i'r Uchel
Lys.
Faint o amser sydd gan yr AALl i roi eich penderfyniad
ar waith?
Ar ôl i ni benderfynu ar eich apêl, oni bai fod
adolygiad neu apêl i'r Uchel Lys, mae'n rhaid i'r AALl
ddilyn y penderfyniad o fewn cyfnod penodol, gan ddechrau
gyda'r dyddiad y gwnaethom gyhoeddi ein penderfyniad. Yn dibynnu
ar y math o apêl, dylai'r AALl ddilyn y terfynau amser
isod.
- I gychwyn y broses asesu neu ailasesu - 4 wythnos;
- I wneud datganiad - 5 wythnos;
- I newid datganiad - 5 wythnos;
- I newid yr ysgol a enwir yn unol â dymuniad y rhieni
- 2 wythnos;
- I barhau â datganiad - yn syth;
- I ganslo (rhoi'r gorau i gynnal) datganiad - yn syth.
Mae'r terfynau amser hyn hefyd yn gymwys pan fydd yr AALl
yn dweud wrthym nad yw'n gwrthwynebu'r apêl.
Beth os na fydd yr AALl yn gweithredu ar eich penderfyniad?
Mae'n rhaid i'r AALl weithredu ar ein penderfyniad yn ôl
y gyfraith. Os na fydd yr AALl wedi gwneud hyn o fewn cyfnod
rhesymol o amser, gallwch ysgrifennu at Gynulliad Cenedlaethol
Cymru i gwyno.
A fydd yn rhaid i mi dalu unrhyw gostau os byddaf yn colli'r
apêl?
Fel arfer, ni fydd yn rhaid i chi na'r AALl dalu costau eich
gilydd. Mewn amgylchiadau prin iawn, os credwn eich bod chi
neu'r AALl wedi ymddwyn yn afresymol, neu wedi gwastraffu
ein hamser yn fwriadol, efallai y bydd yn rhaid i'r AALl dalu
eich costau chi, neu efallai y bydd yn rhaid i chi dalu eu
costau hwy.
|