Y gwrandawiad
Faint o rybudd a gaf am y gwrandawiad?
Pan fyddwn yn ysgrifennu atoch i ddweud ein bod wedi derbyn
eich apêl, byddwn yn gofyn i chi a'r AALl roi dyddiadau
i ni pryd y byddech ar gael ar gyfer gwrandawiad.
Dylech siarad â'ch tystion a'ch cynrychiolydd i wneud
yn si wr eu bod ar gael ar y dyddiadau a roddwch chi.
Byddwn wedyn yn trefnu dyddiad. Os na fyddwn yn clywed oddi
wrthych, byddwn yn symud ymlaen i drefnu dyddiad.
Pryd fydd angen i mi ddweud pwy yw fy nhystion?
Cewch wybod dyddiad y gwrandawiad cyn gynted ag y byddwn
wedi ei drefnu, a byddwn yn anfon ffurflen i roi manylion
am bwy fydd yn dod gyda chi i'r gwrandawiad. Os na fyddwch
wedi rhoi'r wybodaeth yma i ni erbyn yr adeg y gofynnwn i
chi ddychwelyd y ffurflen mae'n bosib y bydd eich cynrychiolydd
neu'ch tystion yn cael eu hatal rhag dod i'r gwrandawiad.
Os na allwch ddweud wrthym pwy fydd yn dod gyda chi i'r gwrandawid
erbyn y dyddiad rydym yn gofyn i chi roi gwybod, efallai y
byddwn yn gallu rhoi mwy o amser i chi. Os byddwch yn newid
eich cynrychiolydd neu'ch tystion, a chithau wedi dychwelyd
y ffurflen bresenoldeb neu wedi rhoi'r manylion hyn i ni,
dylech roi gwybod I ni am y newidiadau cyn gynted â
phosib.
Byddwn yn ysgrifennu atoch tua 10 diwrnod gwaith cyn y gwrandawiad,
i gadarnhau dyddiad, amser a lleoliad y gwrandawiad, ac i
roi gwybod i chi pwy fydd yn dod o'r AALl.
Ble fydd fy ngwrandawiad yn cael ei gynnal?
Rydym yn cynnal gwrandawiadau ledled y wlad ac fe geisiwn
gynnal eich gwrandawiad chi cyn agosed â phosib i lle'r
ydych yn byw. Rydym yn ceisio cyfyngu'r amser a gymerwch I
deithio i'r gwrandawiad i ddim mwy nag awr a hanner.
Faint o'r gloch fydd y gwrandawiad yn dechrau?
Fel arfer byddwn yn cynnal gwrandawiadau o fewn oriau gwaith
cyffredin. Byddwn yn trefnu eich gwrandawiad ar gyfer amser
penodol ac yn neilltuo hanner diwrnod ar ei gyfer fel arfer.
Bydd y rhan fwyaf o wrandawiadau'n dechrau am un ai 10am.
Fe wnawn ein gorau i sicrhau fod y gwrandawiad yn dechrau'n
brydlon ond mae oedi'n anorfod weithiau.
Pwy fydd yn gwrando ar fy apêl?
Bydd panel tribiwnlys yn cynnwys tri o bobl yn gwrando ar
eich apêl. Bydd un o aelodau'r panel yn gyfreithiwr
ac yn cadeirio'r cyfarfod. Bydd gan y ddau aelod arall wybodaeth
a phrofiad o anghenion addysgol arbennig.
A fydd y gwrandawiad yn breifat?
Bydd gwrandawiadau yn breifat fel arfer ond gellwch ofyn
(ar y ffurflen bresenoldeb y byddwn yn ei hanfon i chi i'w
llenwi) i'ch apêl gael ei glywed yn gyhoeddus a dweud
pam y dylai hynny ddigwydd. Gellwch chi a'r AALl gytuno y
dylai'r gwrandawiad fod yn gyhoeddus.
Oes rhaid i mi ddod i'r gwrandawiad?
Mae'n bwysig eich bod yn dod i'r gwrandawiad, ond does dim
rhaid i chi. Byddwn am gael clywed unrhyw beth sydd gennych
i'w ddweud ac efallai y byddwn am ofyn
cwestiynau os yw rhywbeth yn aneglur yn y dogfennau rydych
wedi eu hanfon. Efallai y byddwch chi eich hun am ofyn cwestiynau.
Mae'n debyg y byddai'n ddefnyddiol i chi wneud rhestr o'r
pwyntiau rydych am eu gwneud a dod â hwy gyda chi i'r
gwrandawiad.
Os penderfynwch nad ydych am ddod i'r gwrandawiad, neu os
penderfynwch anfon cynrychiolydd, dylech ddweud hynny wrthym
ar y ffurflen bresenoldeb. Os felly, gellwch anfon llythyr
i gefnogi eich apêl ond rhaid i ni ei dderbyn o leiaf
5 diwrnod gwaith cyn y gwrandawiad.
A allaf i gael cynrychiolydd yn y gwrandawiad?
Gellwch anfon rhywun i'r gwrandawiad i'ch cynrychioli prun
a ydych yn dod eich hun ai peidio. Os ydych am wneud hynny,
rhaid i chi roi enw a chyfeiriad eich cynrychiolydd ar y ffurflen
bresenoldeb a anfonwn atom. Os oes rhywun wedi bod yn eich
helpu gyda'ch apêl, does dim rhaid i hwnnw neu honno
fod y sawl sy'n eich cynrychioli yn y gwrandawiad. Os penderfynwch
anfon cynrychiolydd ar ôl i chi ddychwelyd y ffurflen
bresenoldeb, dylech ysgrifennu atom ar wahân i ddweud
hynny.
A gaiff fy nghynrychiolydd fod yn gyfreithiwr?
Gellwch ddod â chyfreithiwr neu fargyfreithiwr i'ch
cynrychioli ond ni chewch nawdd cyhoeddus ar gyfer hyn. -------------------------------
Fydd rhaid i mi ateb cwestiynau fy hun yn y gwrandawiad?
Hyd yn oed os dewch â chynrychiolydd i siarad ar eich
rhan am eich rhesymau dros apelio, ac i'ch helpu i fynegi
eich safbwynt, mae'n bosib y bydd aelodau'r tribiwnlys yn
dal eisiau gofyn rhai cwestiynau i chi. Er enghraifft, mae'n
bosib y byddant am eich holi yngl yn ag anghenion eich
plentyn gartref. Does dim rhaid i chi ateb y cwestiynau hyn
os nad ydych yn dymuno.
A gaiff y ddau riant fynd i'r cyfarfod?
Cânt. Caiff unrhyw un sydd â chyfrifoldeb rhiant
dros y plentyn fynd i'r gwrandawiad. Os daw rhiant nad yw
wedi anfon yr apêl i'r gwrandawiad, fe allem ganiatáu
iddo ef neu hi roi ei farn/ei barn yn y gwrandawiad.
A gaiff fy mhlentyn fynd i'r gwrandawiad?
Caiff eich plentyn fynd i'r gwrandawiad a rhoi tystiolaeth.
Er hynny, dylech gofio nad yw'ch plentyn yn debygol o aros
trwy gydol y gwrandawiad. Dylech drefnu i ffrind neu berthynas
ddod hefyd gan na fyddwn ni'n gallu edrych ar ôl eich
plentyn.
A gaf i ddod ag unrhyw un arall i gefnogi f'achos?
Cewch ddod â hyd at ddau dyst i'r gwrandawiad. Rhaid
i chi roi'r manylion amdanynt ar y ffurflen bresenoldeb. Mewn
amgylchiadau prin iawn, fe allai'r llywydd roi caniatâd
i chi (------a'r AALl) ddod â mwy na dau dyst. Rhaid
i chi ofyn caniatâd ar gyfer hyn (yn ysgrifenedig neu
ar eich ffurflen bresenoldeb) yn ddigon buan cyn dyddiad y
gwrandawiad, gan egluro pam eich bod angen mwy na dau dyst.
Os yw'n amhosib ysgrifennu atom cyn y gwrandawiad, gellwch
ofyn i'r panel tribiwnlys ar ddechrau'r gwrandawiad. Bydd
yr AALl
yn gallu gwneud hyn hefyd. Anaml iawn y bydd y panel yn caniatáu
tystion ychwanegol.
Gellwch hefyd ddod â dau o bobl eraill gyda chi i roi
cefnogaeth, ond ni fyddant yn gallu cymryd rhan yn y gwrandawiad.
Rhaid ichi ddweud wrthym pwy ydynt ar y ffurflen bresenoldeb.
Gallai'r llywydd benderfynu na chaiff rhywun a enwir gennych
fynd i'r gwrandawiad.
Beth os yw tyst yn gwrthod dod i'r gwrandawiad?
Os yw rhywun rydych wedi gofyn iddo/iddi fod yn un o'ch tystion
yn anhapus yngl yn â mynychu'r gwrandawiad, gellwch
ysgrifennu at y llywydd gan ddweud pam eich bod yn credu ei
bod yn bwysig fod y person hwnnw yn y gwrandawiad. Dylech
ysgrifennu cyn gynted â phosib os ydych am ofyn am gwys
tyst. Byddwn angen o leiaf 8 diwrnod gwaith cyn y gwrandawiad
i ddelio â'ch cais.
Os bydd y llywydd yn cytuno, bydd ef neu hi'n anfon gwys
tyst i chi, y dylech ei roi i'r person hwnnw. Bydd rhaid i'r
person hwnnw ddod fel tyst wedyn, oni bai fod rhesymau cryf
dros beidio â dod.
Pwy fydd yn y gwrandawiad?
Mae'n bosib y bydd y bobl a ganlyn yno:
- chi, a'ch plentyn o bosib;
- Unrhyw riant arall i'r plentyn sy'n dymuno mynd;
- Eich cynrychiolydd, os oes gennych un;
- Eich tystion, os oes gennych rai;
- Unrhyw un arall rydych am iddynt fod yno, hyd at uchafswm
o ddau, na fyddant yn cymryd rhan yn y gwrandawiad;
- Cynrychiolydd yr AALl;
- Tystion yr AALl, os oes rhai;
- Tri aelod y tribiwnlys;
- Clerc y tribiwnlys, a fydd yn dangos i chi ble i fynd,
yn egluro'n gryno beth fydd yn digwydd, ac yn rhoi unrhyw
help y gallech fod ei angen;
- Unrhyw gyfieithwyr neu arwyddwyr, os oes angen y rhain.
Mae'n bosib y bydd rhywun yno'n gwylio sut mae'r tribiwnlys
yn cael ei gynnal hefyd, neu rywun sy'n cael ei hyfforddi
gan y tribiwnlys.
Beth fydd yn digwydd pan fyddaf yn cyrraedd y gwrandawiad?
Dylech geisio cyrraedd y gwrandawiad mewn da o bryd. Bydd
ein clerc yn eich cyfarfod rhwng 10 munud a chwarter awr cyn
y dechrau. Bydd yn egluro beth fydd yn digwydd, ble mae pethau
ac yn ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych. Bydd yn dweud wrthych
ble i aros ac a fydd unrhyw oedi cyn dechrau'r gwrandawiad.
Beth fydd yn digwydd yn ystod y gwrandawiad?
Bydd ein clerc yn eich tywys i ystafell y gwrandawiad. Gan
amlaf, bydd pawb fydd yn cymryd rhan yn eistedd o amgylch
bwrdd. Bydd y cadeirydd yn egluro'r drefn i chi cyn i'r gwrandawiad
ddechrau.
Bydd aelodau'r tribiwnlys am gael gwybod y pethau hyn gennych
chi a'r AALl.
- Beth yw'r ffeithiau perthnasol, yn eich barn chi.
- Pa gasgliadau rydych chi'n credu y dylai'r tribiwnlys
eu ffurfio
- Beth rydych chi'n credu y dylid ei wneud i'ch plentyn
yn awr.
Bydd y cadeirydd yn ceisio gwneud pethau mor syml â
phosib er mwyn i bawb gael rhoi ei safbwynt. Bydd aelodau'r
tribiwnlys yn gofyn cwestiynau heb ddefnyddio jargon o fyd
addysg na'r gyfraith. Os nad yw eu cwestiynau'n eglur, gellwch
ofyn iddynt egluro beth maen nhw'n ei feddwl cyn i chi ateb.
Bydd y cadeirydd yn awgrymu fod gwahanol rannau'r achos yn
cael eu trin fesul un felly fydd dim rhaid i chi wneud un
datganiad yngl yn â'r achos cyfan. Bydd hyn yn
rhoi cyfle i bawb edrych ar y pwyntiau fel y maen nhw'n codi,
heb gael eu drysu.
Sut fydd fy nhystion yn rhoi tystiolaeth?
Bydd tystion yn gallu rhoi tystiolaeth am bob pwynt. Byddwch
chi a'r AALl yn gallu gofyn cwestiynau iddynt. Fel arfer bydd
tystion yn aros ar gyfer y gwrandawiad cyfan.
A fyddaf i'n cael gofyn fy nghwestiynau fy hun?
Nid yw'r drafodaeth yng ngwrandawiad y tribiwnlys wedi ei
chyfyngu i'r pwyntiau y bydd y cadeirydd yn eu codi. Bydd
cyfle i chi ychwanegu unrhyw beth sy'n bwysig yn eich barn
chi ond nad yw wedi ei grybwyll. Gallai fod yn syniad da gwneud
rhestr ymlaen llaw o'r hyn yr hoffech i'r tribiwnlys ei ystyried.
Wedyn gellwch roi llinell drwy'r materion hyn wrth iddynt
gael eu trafod. Ar y diwedd gellwch godi unrhyw fater sydd
wedi cael ei adael allan.
Ar ddiwedd y gwrandawiad, bydd y cadeirydd yn dweud wrthych
y byddwch yn derbyn ein penderfyniad drwy'r post. Fel arfer
byddwch yn derbyn ein penderfyniad tua phythefnos ar ôl
y gwrandawiad.
Faint fydd hyd y gwrandawiad?
Fel arfer bydd y gwrandawiad yn para hyd at dair awr, ond
bydd toriad byr gan amlaf. Os byddwch angen mwy o doriadau,
dylech ofyn i'r cadeirydd. Prin iawn yw'r achosion pan fo
gwrandawiad yn para'n hwy na hyn.
Yn anaml iawn, gallai'r tribiwnlys fod angen mwy o dystiolaeth.
Os felly, bydd y cadeirydd yn egluro beth mae'r tribiwnlys
ei angen ac yn gofyn i chi ddod yn ôl ar ddiwrnod arall.
Bydd hyn yn rhoi cyfle i chi a'r AALl gyflwyno'r dystiolaeth
yma.
Pa gostau allaf i eu hawlio?
Byddwch yn gallu hawlio costau teithio ar eich cyfer chi eich
hun a'ch plentyn, os bydd yn dod i'r gwrandawiad. Os byddwch
yn dod â pherthynas neu ffrind i ofalu am eich plentyn,
byddwch yn gallu hawlio costau teithio ar ei gyfer ef neu
hi hefyd.
|