Diwallu eich Anghenion
Ein nod yw darparu'r gwasanaeth gorau posibl i chi. Dyma
ein hymrwymiad i chi
Pan fyddwch yn cyflwyno apêl neu hawliad, byddwn
yn:
- penderfynu'n gyflym p'un a allwn ddelio ag ef ai peidio;
- ysgrifennu atoch o fewn 10 diwrnod gwaith ar ôl
i ni dderbyn; eich apêl a dweud wrthych pa gamau rydym
am eu cymryd.
Os ysgrifennwch atom neu os gofynnwch i ni am wybodaeth,
byddwn yn
- ateb unrhyw gwestiynau a ofynnwch mor gyflawn â
phosibl;
- os bydd angen ateb ysgrifenedig arnoch, ei roi i chi o
fewn 10 diwrnod gwaith.
Os byddwch yn ein ffonio, byddwn yn:
- ceisio ateb eich galwad o fewn 20 eiliad. Os na allwn
wneud hynny, gallwch adael neges ar ein peiriant ateb a
byddwn yn eich ffonio'n ôl o fewn un diwrnod gwaith;
- ateb y cwestiynau a ofynnwch yn broffesiynol ac yn ddiragfarn;
a
- dweud wrthych gyda phwy rydych yn siarad.
Pan ddowch i'r gwrandawiad, byddwn yn
- eich cyfarfod ac yn egluro beth fydd yn digwydd yn ystod
y gwrandawiad;
a
- rhoi unrhyw help y bydd ei angen arnoch, gan ateb unrhyw
gwestiynau a fydd gennych.
|