Datganiadau Achos AAA
Os byddwn yn derbyn eich apêl AAA, byddwn yn anfon copi
o'ch apêl i'r AALl. Byddwn yn dweud wrthych pryd bydd
eich gwrandawiad yn debygol o gael ei gynnal a byddwn yn gofyn
i chi am ddyddiadau pan na allwch ddod i'r gwrandawiad. Yna,
bydd gennych chi a'r AALl 6 wythnos i baratoi datganiad achos
yn egluro eich safbwyntiau a'r ffeithiau.
Datganiadau Achos
Byddwn yn anfon canllawiau atoch ar sut i baratoi datganiad
achos. Mae pob plentyn yn unigryw, felly mae ffeithiau pob
apêl i'r tribiwnlys yn wahanol. Am y rheswm hwnnw, bydd
y wybodaeth a gawn gan rieni yn wahanol hefyd. Ond, bron ymhob
achos, mae gwybodaeth gyffredinol y mae angen i ni wybod amdani.
Wrth gwrs, os ydym wedi derbyn y wybodaeth hon eisoes, naill
ai gennych chi gyda'r hysbysiad apêl neu gan yr AALl,
nid oes angen i chi ddweud wrthym.
Yr hyn sydd angen i ni ei wybod
Dylech ddweud wrthym:
- beth rydych yn ei ddymuno ar gyfer eich plentyn a pham,
a
- pa bethau rydych yn anghytuno â hwy mewn perthynas
â chynigion yr AALl a pham.
Anghenion Addysgol Arbennig
Pa anghenion addysgol arbennig sydd gan eich plentyn?
Beth sydd wedi'i wneud eisoes i helpu, a pha gynnydd a wnaethpwyd?
Ysgol
Beth sy'n rhoi'r anhawster mwyaf i'ch plentyn yn yr ysgol?
Pa help mae eich plentyn yn ei gael ar hyn o bryd - er enghraifft,
gan athrawon arbenigol neu gynorthwywyr?
A oes gan eich plentyn gynllun addysg unigol a beth mae'r
ysgol yn ei ddweud ynglyn â chynnydd? Gall copïau
o adroddiadau ein helpu ni.
Meddygol
Sut mae unrhyw gyflwr meddygol sydd gan eich plentyn yn effeithio
ar ei gyflwr?
Therapi (therapi lleferydd ac iaith, ffisiotherapi,
therapi galwedigaethol ac ati.)
Os yw eich plentyn wedi bod yn cael therapi, rhowch gopïau
o unrhyw adroddiadau neu asesiadau proffesiynol i ni.
Pa newidiadau rydych yn dymuno eu gweld, a sut rydych yn disgwyl
i'r therapi helpu?
Beth mae therapyddion wedi'i ddweud am yr hyn fydd ei angen
yn y dyfodol?
Newid ysgolion
Os hoffech i'ch plentyn fynd i ysgol newydd, dywedwch pam
wrthym.
Sut y bydd hyn yn diwallu anghenion eich plentyn? Anfonwch
gopi o brosbectws yr ysgol atom.
Pe bai eich plentyn yn byw yn yr ysgol, a fyddai rheswm addysgol
am hyn?
Faint o amser fyddai'n ei gymryd i fynd yn ôl ac ymlaen
i'r ysgol a beth fyddai'r gost?
Addysg yn y cartref
Os hoffech i'ch plentyn dderbyn ei addysg gartref, dywedwch
wrthym sut y byddai hynny'n gweithio a'r costau sy'n gysylltiedig.
|