Back to National Assembly for Wales Homepage Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru
       
Back to SENTW home page    
   
 
Welsh Assembly Government * * * * * * *
*
 

Amserlen ar gyfer Apeliadau


Mae'r amserlen isod yn dangos sawl diwrnod gwaith y bydd pob cam o'ch apêl yn ei gymryd. Nid yw diwrnodau gwaith yn cynnwys dydd Sadwrn, dydd Sul, gwyliau banc, unrhyw ddiwrnod rhwng 25 Rhagfyr a 1 Ionawr, nac unrhyw ddiwrnod yn Awst.

  • Rydych chi'n gwneud apêl ac rydym ni'n penderfynu a allwn ymdrin â'r apêl.


  • Os na allwn ymdrin â'r apêl, byddwn yn ysgrifennu i ddweud wrthych o fewn 10 diwrnod gwaith.

  • Os bydd angen mwy o wybodaeth arnom cyn y gallwn wneud penderfyniad ynglyn â chofrestru eich apêl, byddwn yn ysgrifennu atoch i ofyn i chi anfon y wybodaeth hon. Fel arfer, bydd gennych 10 diwrnod gwaith i ateb.

  • Os gallwn ymdrin â'r apêl, byddwn yn anfon copi o'r apêl i'r AALl o fewn 10 diwrnod gwaith ar ôl i ni ei derbyn ac yn ysgrifennu atoch chi ar yr un pryd. Byddwn hefyd yn anfon copi o'r fideo 'Hawl i gael eich clywed' atoch fel y byddwch yn gwybod beth i'w ddisgwyl yn y gwrandawiad tribiwnlys. Byddwn yn ysgrifennu i ofyn i chi a'r AALl ynglyn â dyddiadau ar gyfer y gwrandawiad.

  • Os nad ydych wedi rhoi digon o resymau i'r AALl ymateb i'ch apêl neu'ch hawliad ar sail anabledd, byddwn yn ysgrifennu i ofyn i chi roi'r rhesymau yn llawn. Fel arfer bydd gennych 10 diwrnod gwaith i ateb. Pan dderbyniwn eich ateb, byddwn yn ei anfon ymlaen i'r AALl.

  • Rhaid i'r AALl, ac fe gewch chithau, ddarparu 'datganiad achos' ac unrhyw dystiolaeth ychwanegol o fewn 30 diwrnod gwaith.

  • Yn ystod y 30 diwrnod (cyfnod y datganiad achos) byddwn yn ysgrifennu i roi gwybod i chi am leoliad a dyddiad y gwrandawiad. Rhaid i chi a'r AALl ddychwelyd ffurflen bresenoldeb wedi'i chwblhau erbyn diwedd y 30 diwrnod, neu'n hwyrach os byddwn yn cytuno i roi mwy o amser i chi.

  • Ar ddiwedd cyfnod y datganiad achos, byddwn yn anfon copi o ddatganiad achos yr AALl atoch chi ynghyd â thystiolaeth, ac yn anfon copi o'ch datganiad achos chi ac unrhyw dystiolaeth arall i'r AALl.

  • Byddwn yn cadarnhau lleoliad, dyddiad ac amser y gwrandawiad tua 10 diwrnod gwaith ymlaen llaw.

  • Byddwn yn anfon penderfyniad ysgrifenedig atoch chi a'r AALl, fel arfer o fewn 10 diwrnod gwaith ar ôl y gwrandawiad.

Dylech dderbyn ein penderfyniad ar eich apêl ymhen rhyw dri i bedwar mis (pedwar i bum mis os yw mis Awst yn cael ei gynnwys) o'r dyddiad y derbyniwn eich apêl.


Back to top