Back to National Assembly for Wales Homepage Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru
       
Back to SENTW home page    
   
 
Welsh Assembly Government * * * * * * *
*
 

Pryd gallwch apelio i'r tribiwnlys

Gallwch apelio i ni os yw'r AALl:

  • yn anfodlon cynnal asesiad ffurfiol o anghenion addysgol arbennig eich plentyn; neu
  • yn gwrthod cyhoeddi datganiad o anghenion addysgol arbennig eich plentyn.

Os yw'r AALl wedi gwneud datganiad, neu wedi newid datganiad blaenorol, gallwch apelio yn erbyn:

  • y rhannau sy'n disgrifio anghenion addysgol arbennig eich plentyn (rhan 2) ac sy'n nodi'r cymorth addysgol arbennig (rhan 3) y mae'r AALl yn credu y dylai eich plentyn ei gael;
  • yr ysgol a enwir yn rhan 4 o'r datganiad; neu
  • yr AALl am beidio ag enwi ysgol yn rhan 4.

Gallwch apelio hefyd os yw'r AALl:

  • yn gwrthod newid yr ysgol a enwir yn natganiad eich plentyn, os yw'r datganiad hwnnw'n flwydd oed o leiaf (ond dim ond ysgol a gynhelir gan AALl y gallwch ofyn amdani - un y mae AALl yn ei hariannu);
  • yn gwrthod ailasesu anghenion addysgol arbennig eich plentyn os nad yw'r AALl wedi gwneud asesiad newydd am chwe mis o leiaf;
  • yn penderfynu peidio â chynnal (yn penderfynu canslo) datganiad eich plentyn; neu
  • yn penderfynu peidio â newid y datganiad ar ôl ailasesu eich plentyn.

Ni allwch apelio i ni:

  • os gwrthododd yr AALl enwi ysgol annibynnol neu ysgol nas cynhelir pan ofynasoch am newid mewn datganiad oedd yn flwydd oed o leiaf;
  • ynglyn â'r ffordd y gwnaeth yr AALl gynnal yr asesiad neu faint o amser a gymerodd;
  • ynglyn â'r ffordd y mae'r ysgol yn diwallu anghenion eich plentyn;
  • ynglyn â'r disgrifiad yn rhannau 5 a 6 o'r datganiad o anghenion anaddysgol eich plentyn neu sut y mae'r AALl yn bwriadu diwallu'r anghenion hynny; neu
  • os yw'r AALl yn gwrthod diwygio'r datganiad ar ôl adolygiad blynyddol.

Mae'n bosibl na fyddwn yn gallu ystyried apêl os yw eich plentyn dros 16 ac nad yw ar gofrestr ysgol. Ni fyddwn yn gallu ystyried apêl os yw eich plentyn wedi gadael yr ysgol ac yn mynd ymlaen i goleg addysg bellach neu uwch.

Back to top